Llythyr Paul at yr Effesiaid 1:3
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a'n bendithiodd ni â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.
Read all of Llythyr Paul at yr Effesiaid 1
Cross References
Genesis 12:2A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.
Genesis 22:18Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrandaw o honot ar fy llais i.
1 Chronicles 29:20y Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, Bendithiwch, atolwg, yr AR¬GLWYDD eich Duw. A’r holl dyrfa a fendithiasant ARGLWYDD DDUW eu tadau, a blygasant eu pennau, ac a ymgrymasant i’r ARGLWYDD, ac i’r brenin. º
Nehemiah 9:5A’r Lefiaid, Jesua, a Chadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia, a Phethaheia, a ddywedasant, Cyfodwch, bendithiwch yr ARGLWYDD eich DUW o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: a bendithier dy enw gogoneddus a dyrchafedig, goruwch pob bendith a moliant.
Psalms 72:19Dy gyfiawnder hefyd, O DDUW, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O DDUW, sydd debyg i ti?
Isaiah 61:9Eu had hwynt hefyd a adwaenir ymysg y cenhedloedd, a’u hiliogaeth hwynt yng nghanol y bobl: y rhai a’u gwelant a’u hadwaenant, mai hwynt-hwy yw yr had a fendithiodd yr ARGLWYDD. º