Llythyr Paul at yr Effesiaid 1:5
Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys ef,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6Er mawl gogoniant ei ras ef, trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymmeradwy yn yr Anwylyd:
Read all of Llythyr Paul at yr Effesiaid 1
Cross References
Jeremiah 3:19Ond mi a ddywedais. Pa fodd y’th osodaf ymhlith y plant, ac y rhoddaf i ti dir dymunol, sef etifeddiaeth ardderchog lluoedd y cenhedloedd? ac a ddywedais, Ti a elwi arnaf fi, Fy nhad, ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl i.
Hosea 1:10Eto bydd nifer meibion Israel fel tywod y môr, yr hwn nis mesurir, ac nis cyfrifir: a bydd, yn y man lle y dywedwyd wrthynt, Nid pobl i mi ydych chwi, y dywedir yno wrthynt, Meibion y Duw byw ydych.
Matthew 11:26Ie, O Dad, canys felly y rhyngodd fodd i ti.
Luke 11:32Gwyr Ninefe a godant i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemniant hi; am iddynt edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele un mwy na Jonas yma.
John 11:52Ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid.
Romans 8:14Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw.