Llythyr Paul at yr Effesiaid 2:14
Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llythyr Paul at yr Effesiaid 2
Cross References
Isaiah 9:6Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef: a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd. º
Ezekiel 34:24A minnau yr ARGLWYDD a fyddaf yn DDUW iddynt, a'm gwas Dafydd yn dywysog yn eu mysg: myfi yr AR¬GLWYDD a leferais hyn.
Micah 5:5A hwn fydd yr heddwch, pan ddêl yr Asyriad i'n tir ni: a phan sathru o fewn ein palasau, yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wyth o'r dynion pennaf.
Luke 1:79I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, t gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
John 10:16A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o’r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail.
John 16:33Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangnefedd ynof. Yn y byd gorthrymder a gewch: eithr cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.