Llythyr Paul at yr Effesiaid 4:28
Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â'i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i'w gyfrannu i'r hwn y mae angen arno.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llythyr Paul at yr Effesiaid 4
Cross References
Exodus 20:17Na chwennych dŷ dy gymmydog, na chwennych wraig dy gymmydog, na’i wasanaethwr, na’i wasanaeth-ferch, na’i ŷch, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo dy gymmydog.
Job 34:32Heblaw a welaf, dysg di fi: o gwneuthum anwiredd, ni wnaf fi mwy.
Proverbs 14:23Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi.
Proverbs 30:9Rhag i mi ymlenwi, a’th wadu di, a dywedyd, Pwy yw yr ARGLWYDD? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lladrata, a chymryd enw fy Nuw yn ofer
Hosea 4:2Trwy dyngu, a dywedyd celwydd, a lladd celain, a lladrata, a thorri priodas, y maent yn torri allan, a gwaed a gyffwrdd â gwaed.
Luke 3:8Dygwch gan hynny ffrwythau addas ‘i edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham.