Llythyr Paul at yr Effesiaid 4:31
Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
30Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy'r hwn y'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth.
Read all of Llythyr Paul at yr Effesiaid 4
Cross References
Genesis 27:41¶ Ac Esau a gasaodd Jacob, am y fendith â’r hon y bendithiasai ei dad ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Nesâu y mae dyddiau galar fy nhad; yna lladdaf Jacob fy mrawd.
Genesis 37:21A Reuben a glybu, ac a’i hachubodd ef o’u llaw hwynt; ac a ddywedodd, Na laddwn ef.
2 Samuel 13:22Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon na drwg na da: canys Absalom a gasaodd Amnon, oherwydd iddo dreisio Tamar ei chwaer ef. º
2 Samuel 19:43A gwŷr Israel a atebasant wŷr Jwda, ac a ddywedasant, Deg rhan sydd i ni yn y brenin; hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi: paham gaa hynny y diystyraist fi? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin? Ac ymadrodd gwŷr Jwda oedd galetach nag ymadrodd gwŷr Israel.
Psalms 50:20Dyn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir.
Psalms 101:5Canys da yw yr ARGLWYDD: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.