Llyfr Esther 1:6
Lle yr oedd llenni gwynion, gwyrddion, a rhuddgochion, wedi eu clymu â llinynnau sidan, ac â phorffor, wrth fodrwyau arian, a cholofnau marmor: y gwelyau oedd o aur ac arian, ar balmant o faen grisial, a marmor, ac alabaster, a iasinct.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 26:1Y gaeadlen i’r drws. Y tabernacl hefyd a wnei di o ddeg llèn o lïan main cyfrodedd, ac o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad: yn gerubiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt.
Exodus 26:36A gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, ac o lïan main cyfrodedd o wnïadwaith.
Esther 8:15A Mordecai a aeth allan o ŵydd y brenin mewn brenhinol wisg o ruddgoch a gwyn, ac â choron fawr o aur, ac mewn dillad sidan a phorffor; a dinas Susan a orfoleddodd ac a lawenychodd:
Amos 2:8Ac ar ddillad wedi eu rhoi yng ngwystl y gorweddant wrth bob allor; a gwin y dirwyol a yfant yn nhŷ eu duw.