Llyfr Esther 2:7
Ac efe a fagasai Hadassa, honno yw Esther, merch ei ewythr ef frawd ei dad, canys nid oedd iddi dad na mam: a’r llances oedd weddeiddlwys, a glân yr olwg; a phan fuasai ei thad a’i mam hi farw, Mordecai a’i cymerasai hi yn ferch iddo.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Esther 1:11Am gyrchu y frenhines Fasti o flaen y brenin, yn y frenhinol goron, i ddangos i’r bobloedd ac i’r tywysogion ei glendid hi: canys glân yr olwg ydoedd hi.
Esther 8:1Y dwthwn hwnnw y rhoddodd brenin Ahasferus i’r frenhines Esther dŷ Haman gwrthwynebwr yr Iddewon. A Mordecai a ddaeth o flaen y brenin; canys Esther a fynegasai beth oedd efe iddi hi.
Job 31:18(Canys efe a gynyddodd gyda mi fel gyda thad, o’m hieuenctid; ac o groth fy mam mi a’i tywysais hi;)
Daniel 1:6Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt feibion Jwda, Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia:
Ephesians 6:4A chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio; ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.