Llyfr Esther 4:16
Dos, a chasgl yr holl Iddewon a gaffer yn Susan, ac ymprydiwch drosof fi, na fwytewch hefyd ac nac yfwch dros dridiau, nos na dydd: a minnau a’m llancesau a ymprydiaf felly: ac felly yr af i mewn at y brenin, yr hwn beth nid yw gyfreithlon: ac o derfydd amdanaf, darfydded.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15Yna Esther a ddywedodd am ateb Mordecai fel hyn:
17Felly Mordecai a aeth ymaith, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Esther iddo.
Cross References
Genesis 18:19Canys mi a’i hadwaen ef, y gorchymyn efe i’w blant, ac i’w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo yr Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe am dano.
Joshua 24:15Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr Arglwydd, dewiswch i chwi heddyw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon, ai ynte duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd.
2 Samuel 10:12Bydd bybyr, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw: a gwnaed yr ARGLWYDD yr hyn fyddo da yn ei olwg ef. º
2 Chronicles 20:3A Jehosaffat a ofnodd, ac a ymroddodd i geisio yr ARGLWYDD; ac a gyhoeddodd ymipryd trwy holl Jwda.
Esther 5:1Ac ar y trydydd dydd, Esther a ymwisgodd mewn brenhinol wisgoedd, ac a safodd yng nghyntedd tŷ y brenin o’r tu mewn, ar gyfer tŷ y brenin: a’r brenin oedd yn eistedd ar ei deyrngadair yn y brenhindy gyferbyn â drws y tŷ.
Isaiah 22:12A’r dydd hwnnw y gwahoddodd Arglwydd DDUW y lluoedd rai i wylofain, ac i alarnad, ac i foeledd, ac i ymwregysu a’sachliain: º