Llyfr Esther 5:9
Yna Haman a aeth allan y dwthwn hwnnw yn llawen, ac yn hyfryd ei galon: ond pan welodd Haman Mordecai ym mhorth y brenin, na chyfodasai efe, ac na syflasai erddo ef, Haman a gyflawnwyd o ddicllonedd yn erbyn Mordecai.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 21:4Ac Ahab a ddaeth i’w dŷ yn athrist ac yn ddicllon, oherwydd y gair a lefarasai Naboth y Jesreeliad wrtho ef; canys efe a ddywedasai, Ni roddaf i ti dreftadaeth fy hynafiaid. Ac efe a orweddodd ar ei wely, ac a drodd ei wyneb ymaith, ac m fwytai fara. º
Esther 2:19A phan gasglwyd y gwyryfon yr ail waith, yna Mordecai oedd yn eistedd ym mhorth y brenin.
Esther 3:5A phan welodd Haman nad oedd Mordecai yn ymgrymu, nac yn ymostwng iddo, Haman a lanwyd o ddicllonedd.
Job 31:31Oni ddywedodd dynion fy mhabell, O na chaem o’i gnawd ef! ni ddigonir ni.
Psalms 27:3Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd.
Daniel 3:16Sadrach, Mesach, ae Abednego a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Nebuchodonosor, nid ydym ni yn gofalu am ateb i ti yn y peth hyn.