Llyfr Esther 7:9
A Harbona, un o’r ystafellyddion, a dywedodd yng ngŵydd y brenin. Wele hefyd y crocbren a baratôdd Haman i Mordecai, yr hwn a lefarodd ddaioni am y brenin, yn sefyll yn nhŷ Haman, yn ddeg cufydd a deugain o uchder. Yna y dywedodd y brenin, Crogwch ef hwnnw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Samuel 17:51Yna y rhedodd Dafydd, ac a safodd ar y Philistiad, ac a gymerth ei gleddyf ef, ac a’i tynnodd o’r wain, ac a’i lladdodd ef, ac a dorrodd ei ben ef ag ef. A phan welodd y Philistiaid farw o’u cawr hwynt hwy a ffoesant. º
Esther 1:10Ar y seithfed dydd, pan oedd lawen calon y brenin gan win, efe a ddywedodd wrth Mehuman, Bistha, Harbona, Bigtha, ac Abagtha, Sethar, a Charcas, y saith ystafellydd oedd yn gweini gerbron y brenin Ahasferus,
Esther 5:14Yna y dywedodd Seres ei wraig, a’i holl garedigion wrtho, Paratoer pren o ddeg cufydd a deugain o uchder, a’r bore dywed wrth y brenin am grogi Mordecai arno; yna dos gyda’r brenin i’r wledd yn llawen. A da oedd y peth gerbron Hainan, am hynny efe a baratodd y crocbren.
Esther 6:14Tra yr oeddynt hwy eto yn ymddiddan ag ef, ystafellyddion y brenin a ddaethant, ac a gyrchasant Haman ar frys i’r wledd a wnaethai Esther.
Esther 9:14A’r brenin a ddywedodd am wneuthur felly, a’r gorchymyn a roddwyd yn Susan: a hwy a grogasant ddeng mab Haman.
Job 27:20Dychryniadau a’i goddiweddant ef fel dyfroedd: corwynt a’i lladrata ef liw nos.