Llyfr Esther 9:25
A phan ddaeth Esther o flaen y brenin, efe a archodd trwy lythyrau, ddychwelyd ei ddrwg fwriad ef, yr hwn a fwriadodd efe yn erbyn yr Iddewon, ar ei ben ei hun; a’i grogi ef a’i feibion ar y pren. 9:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Samuel 25:39A phan glybu Dafydd farw Nabal, efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn a ddadleuodd achos fy sarhad i oddi ar law Nabal, ac a ataliodd ei was rhag drwg: canys yr ARGLWYDD a drodd ddrygioni Nabal ar ei ben ei hun. Dafydd hefyd a anfonodd i ymddiddan ag Abigail, am ei chymryd hi yn wraig iddo. º
Esther 7:5Yna y llefarodd y brenin Ahasferuts, ac y dywedodd wrth Esther y frenhines, Pwy yw hwnnw? a pha le y mae efe, yr hwn a glywai ar ei galon wneuthur felly?
Esther 9:13Yna y dywedodd Esther, O rhyglydda bodd i’r brenin, caniataer yfory i’r Iddewon sydd yn Susan wneuthur yn ôl y gorchymyn heddiw: a chrogant ddeng mab Haman ar y pren.
Psalms 141:10Syrthied marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant.