Llyfr Exodus 12:15
Saith niwrnod y bwyttêwch fara croyw, y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o’ch tai; o herwydd pwy bynnag a fwyttao fara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 17:14A’r gwrryw dïenwaededig, yr hwn ni enwaeder cnawd ei ddïenwaediad, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: oblegid efe a dorrodd fy nghyfammod i.
Exodus 12:19Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwyttao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynnulleidfa Israel, yn gystal y dïeithr a’r prïodor.
Exodus 13:6Saith niwrnod y bwyttêi fara croyw; ac ar y seithfed dydd y bydd gwyl i’r Arglwydd.
Exodus 30:33Pwy bynnag a gymmysgo ei fath, a’r hwn a roddo o hono ef ar ddyn dïeithr, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.
Exodus 31:14Am hynny cedwch y Sabbath; oblegid sanctaidd yw i chwi: llwyr-rodder i farwolaeth yr hwn a’i halogo ef, o herwydd pwy bynnag a wnelo waith arno, torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl.
Exodus 34:25Nac offrymma waed fy aberth gyd â bara lefeinllyd; ac nac arhôed aberth gwyl y Pasc dros nos hyd y bore.