Llyfr Exodus 17:15
A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH-Nissi.
Beibl (1620)
In The King James Version
And Moses built an altar, and called the name of it Jehovah-nissi:
In Context
Cross References
Genesis 12:7A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.
Genesis 22:14Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw Jehofah -jire; fel y dywedir heddyw, Ym mynydd yr Arglwydd y gwelir.
Exodus 24:4A Moses a ysgrifenodd holl eiriau yr Arglwydd; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor îs law y mynydd, a deuddeg colofn, yn ol deuddeg llwyth Israel.
Exodus 32:5A phan ei gwelodd Aaron, efe a adeiladodd allor ger ei fron ef: ac Aaron a gyhoeddodd, ac a ddywedodd, Y mae gwyl i’r Arglwydd y fory.
Psalms 60:4Rhedant, ymbaratoant, heb anwiredd ynof fi: deffro dithau i’m cymorth, ac edrych.