Llyfr Exodus 23:15
Gwyl y bara croyw a gedwi: saith niwrnod y bwyttêi fara croyw, fel y gorchymynais i ti, ar yr amser gosodedig o fis Abib: canys ynddo y daethost allan o’r Aipht: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14¶ Teirgwaith yn y flwyddyn y cedwi wyl i mi.
Cross References
Exodus 12:15Saith niwrnod y bwyttêwch fara croyw, y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o’ch tai; o herwydd pwy bynnag a fwyttao fara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel.
Exodus 13:3¶ A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o’r Aipht, o dŷ y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr Arglwydd chwi oddi yno: am hynny na fwyttâer bara lefeinllyd.
Exodus 13:6Saith niwrnod y bwyttêi fara croyw; ac ar y seithfed dydd y bydd gwyl i’r Arglwydd.
Exodus 34:20Ond y cyntaf i asyn a bryni di âg oen; ac oni phryni, torr ei wddf: pryn hefyd bob cyntaf-anedig o’th feibion: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw.
Leviticus 23:6A’r pymthegfed dydd o’r mis hwnnw y bydd gwyl y bara croyw i’r Arglwydd: saith niwrnod y bwyttêwch fara croyw.
Numbers 9:2Cadwed meibion Israel y Pasc hefyd yn ei dymmor.