Llyfr Exodus 32:1
ac yn gweddïo dros y bobl. Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o’r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gwr a’n dug ni i fynu o wlad yr Aipht, ni wyddom beth a ddaeth o hono.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 19:14Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oedd yn prïodi ei ferched ef, ac a ddywedodd, Cyfodwch, deuwch allan o’r fan yma; o herwydd y mae yr Arglwydd yn difetha y ddinas hon: ac y’ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair.
Genesis 39:8Yntau a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, Wele, fy meistr ni ŵyr pa beth sydd gyd â mi yn y tŷ; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i.
Genesis 44:15A dywedodd Joseph wrthynt, Pa waith yw hwn a wnaethoch chwi? oni wyddech chwi y medr gwr fel myfi ddewiniaeth?
Exodus 14:11A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aipht, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o’r Aipht?
Exodus 20:3Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.
Exodus 24:18A Moses a aeth i ganol y cwmmwl, ac a aeth i fynu i’r mynydd: a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.