Llyfr Exodus 33:11
A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefarai gwr wrth ei gyfaill. Ac efe a ddychwelod i’r gwersyll: ond y llangc Josua, mab Nun, ei weinidog ef, ni syflodd o’r babell.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 17:9A dywedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd âg Amalec: y fory mi a safaf ar ben y bryn, a gwïalen Duw yn fy llaw.
Exodus 32:17A phan glywodd Josua swn y bobl yn bloeddio, efe a ddywedodd wrth Moses, Y mae swn rhyfel yn y gwersyll.
Numbers 12:7Nid felly y mae fy ngwas Moses, yr hwn sydd ffyddlawn yn fy holl dŷ.
Deuteronomy 5:4Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr Arglwydd â chwi yn y mynydd, o ganol y tân,
Deuteronomy 34:10¶ Ac ni chododd prophwyd etto yn Israel megis Moses, yr hwn a adnabu yr Arglwydd wyneb yn wyneb;
Job 16:21O na chai un ymddadlau a DUW dros ddyn, fel mab dyn dros ei gymydog!