Llyfr Eseciel 1:4
Yna yr edrychais, ac wele yn dyfod o'r gogledd gorwynt, a chwmmwl mawr, a thân yn ymgymmeryd, a disgleirdeb o amgylch iddo; ac o'i ganol, sef o ganol y tân, fel lliw ambr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 19:16A’r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmmwl tew ar y mynydd, a llais yr udgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll.
Deuteronomy 4:11A nesasoch, a safasoch dan y mynydd; a’r mynydd oedd yn llosgi gan dân hyd entrych awyr, yn dywyllwch, a chwmmwl, a thywyllwch dudew.
2 Kings 2:11Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan rodio ac ymddiddan, wele gerbyd tanllyd, a meirch tanllyd, a hwy a’u gwahanasant hwynt ill dau. Ac Eleias a ddyrchafodd mewn corwynt i’r nefoedd.
2 Chronicles 7:1Ac wedi gorffen o Solomon weddïo, tân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a ysodd y poethoffrwm a’r ebyrth; a gogoniant yr ARGLWYDD a lanwodd y tŷ.
Psalms 18:11Ein cyniweirfa ni a gylchynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear.
Psalms 97:2Cenwch i’r ARGLWYDD, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.