Llyfr Eseciel 11:17
Dywed gan hynny. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Casglaf chwi hefyd o fysg y bobloedd, a chynullaf chwi o'r gwledydd y'ch gwasgarwyd ynddynt, a Aoddaf i chwi dir Israel.; t 8 A hwy a ddeuant yno, ac a symudant ei holl frynti hi a'i holl ffieidd-dra allan ohoni hi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 11:11Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i’r Arglwydd fwrw eilwaith ei law i feddiannu gweddill ei bobl, y rhai a weddillir gan Asyria, a chan yr Aifft, a chan Pathros, a chan Ethiopia, a chan Elam, a chan Sinar, a chan Hamath, a chan ynysoedd y môr. º
Jeremiah 3:12Cerdda, a chyhoedda y geiriau hyn tua’r gogledd, a dywed, Ti Israel wrthnysig, dychwel, medd yr ARGLWYDD, ac ni adawaf i’m llid syrthio arnoch: canys trugarog ydwyf fi, medd yr AR¬GLWYDD, ni ddaliaf lid yn dragywydd.
Jeremiah 24:5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, Fel y ffigys da hyn, felly y cydnabyddaf fi gaethglud Jwda, y rhai a anfonais O’r lle hwn i wlad y Caldeaid er daioni. º
Jeremiah 29:10Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pan gyflawner yn Babilon ddeng mlynedd a thrigain, yr ymwelaf a chwi, ac a gyflawnaf a chwi fy ngair. daionus, trwy eich dwyn chwi drachefn i’r lle hwn. º
Jeremiah 30:18Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob, ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef; a’r ddinas a adeiledir ar-ei charnedd, a’r llys a erys yn ôl ei arfer. º
Jeremiah 32:37Wele, myfi a’u cynullaf hwynt o’r faoll diroedd, y rhai yn fy nig a’m llid a’m sonant mawr y gyrrais hwynt iddynt; ac a’u dygaf yn eu hôl i’r lle hwn, ac a wnaf iddynt breswylio yn ddiogel. º