Llyfr Eseciel 13:14
Felly y bwriafi lawr y pared a briddasoch a phridd heb ei dymheru, ac a'i tynnaf hyd lawr, fel y dinoether ei sylfaen, ac efe a syrth, a chwithau a ddifethir yn ei ganol ef; a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Psalms 11:3Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr ARGLWYDD yn ei ffieiddio.
Isaiah 28:17A mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys; y cenllysg a ysguba noddfa celwydd, a’r dyfroedd a foddant y lloches. º
Jeremiah 6:15A ydoedd arnynt hwy gywilydd pan wnelent ffieidd-dra? nid ydoedd arnynt hwy ddim cywilydd, ac ni fedrent wrido: am hynny y cwympant ymysg y rhai a gwympant, yn yr amser yr ymwelwyf â hwynt y cwympant, medd yr ARGLWYDD.
Jeremiah 14:15Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD am y proffwydi sydd yn proff¬wydo yn fy enw i, a minnau heb eu hanfon hwynt, eto hwy a ddywedant, Cleddyf a newyn ni bydd yn y tir hwn; Trwy gleddyf a newyn y difethir y proff¬wydi hynny.
Ezekiel 13:9A bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sydd yn gweled gwagedd, ac yn dewinio celwydd; yng nghyfrinach fy mhobl ni byddant, ac o fewn ysgrifen ty Israel nid ysgrifennir hwynt, i dir Israel hefyd ni ddeuant; a gwybyddwch mai myfi yw yr ARGLWYDD DDUW.
Ezekiel 13:23Oherwydd hynny ni welwch wagedd, ac ni ddewiniwch ddewiniaeth mwy; canys gwaredaf fy mhobl o'ch llaw chwi; a chewch wybod mai myfi yw yr AR¬GLWYDD.