Llyfr Eseciel 14:7
Canys pob un o dy Israel, ac o'r dieithr a ymdeithio o fewn Israel, & ymneilltuo oddi ar fy ôl i, ac a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon, ac a osodo dram¬gwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddel at broffwyd i ymofyn a myfi trwyddo ef; myfi yr ARGLWYDD a atebaf iddo trwof fy hun.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 20:10Ond y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaeth-ferch, na’th anifail, na’th ddïeithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth:
Leviticus 20:2Dywed hefyd wrth feibion Israel, Pob un o feibion Israel, neu o’r dïeithr a ymdeithio yn Israel, yr hwn a roddo o’i had i Moloch, a leddir yn farw; pobl y tir a’i llabyddiant ef â cherrig.
Numbers 15:15Yr un ddeddf fydd i chwi o’r dyrfa, ac i’r ymdeithydd dïeithr; deddf dragywyddol yw trwy eich cenhedlaethau: megis yr ydych chwi, felly y bydd y dïeithr ger bron yr Arglwydd.
Deuteronomy 29:19A bod, pan glywo efe eiriau y felldith hon, ymfendithio o hono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio y’nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched:
Isaiah 58:1LLEFA a’th geg, nac arbed, dyrchafa dy lais fel utgorn, a mynega i’m pobl eu camwedd, a’u pechodau i dŷ Jacob. º
Jeremiah 37:1AR brenin Sedeceia mab Joseia a deyrnasodd yn lle Coneia mab Jehoiacim, yr hwn a wnaeth Nebuchodonosor brenin Babilon yn frenin yng ngwlad Jwda. º