Llyfr Eseciel 16:28
Puteiniaist hefyd gyda meibion Assur, o eisiau cael dy ddigon; a hefyd wedi puteinio gyda hwynt, ni'th ddigon-wyd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
29Amlheaist hefyd dy buteindra yng ngwlad Canaan hyd Caldea; ac eto ni'th ddigonwyd a hyn.
Cross References
Judges 10:6A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baalim, ac Astaroth, a duwiau Syria, a duwiau Sidon, a duwiau Moab, a duwiau meibion Ammon, a duwiau y Philistiaid; a gwrthodasant yr ARGLWYDD, ac ni wasanaethasant ef. º
2 Kings 16:10A’r brenin Ahas a aeth i Damascus i gyfarfod Tiglathpileser brenin Asyria, ac a welodd allor oedd yn Damascus: a’r brenin Ahas a anfonodd at Ureia yr offeiriad agwedd yr allor a’i phortreiad, yn ôl ei holl wneuthuriad. º
2 Chronicles 28:16Yr amser hwnnw yr anfonodd y brenin Ahas at frenhinoedd Asyria i’w gynorthwyo ef.
2 Chronicles 28:23Canys efe a aberthodd i dduwiau Damascus, y rhai a’i trawsent ef; ac efe a ddywedodd. Am i dduwiau brenhinoedd Syria eu cynorthwyo hwynt, minnau a aberthaf iddynt hwy, fel y’m cynorthwyont innau: ond hwy a fuant iddo ef ac i holl Israel yn dramgwydd.
Jeremiah 2:36Paham y gwibi di gymaint i newidio dy ffordd? canys ti a waradwyddir oherwydd yr Aifft, fel y’th waradwyddwyd oherwydd Asyria.
Ezekiel 23:12Ymserchodd ym meibion Assur, y dugiaid a'r tywysogion o gymdogion, wedi eu gwisgo yn wych iawn, yn farchogion yn marchogaeth meirch, yn wyr ieuainc dymunol i gyd.