Llyfr Eseciel 16:4
Ac am dy enedigaeth, ar y dydd y'th anwyd ni thorrwyd dy fogail, ac mewn dwfr ni'th olchwyd i'th feddalliau: ni'th gyweiriwyd chwaith a halen, ac ni'th rwymwyd a rhwymyn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 15:13Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddïeithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a’u gwasanaethant, a hwythau a’u cystuddiant bedwar càn mlynedd.
Exodus 2:23¶ Ac yn ol dyddiau lawer, bu farw brenhin yr Aipht; a phlant Israel a ucheneidiasant oblegid y caethiwed, ac a waeddasant; a’u gwaedd hwynt a ddyrchafodd at Dduw, oblegid y caethiwed.
Deuteronomy 5:6Yr Arglwydd dy Dduw ydwyf fi, yr hwn a’th ddug allan o dir yr Aipht, o dŷ y caethiwed.
Joshua 24:2A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Tu hwnt i’r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Terah tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dïeithr.
Ezekiel 20:8Er hynny gwrthryfelasant i'm herbyn, 3 ac ni fynnent wrando arnaf: ni fwriasant ymaith ffieidd-dra eu llygaid bob un, ac ni adawsant eilunod yr Aifft. Yna y dywed¬ais, Tywalltaf arnynt fy llidiowgrwydd, i gyflawni fy nig arnynt yng nghanol gwlad yr Aifft.