Llyfr Eseciel 17:19
Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Fel mai byw fi, fy llw yr hwn a ddiystyrodd efe, a'm cyfamod yr hwn a ddiddymodd efe, hwnnw a roddaf fi ar ei ben ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 2:32A’r ARGLWYDD a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun; o herwydd efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, ac a’u lladdodd hwynt â’r cleddyf, a Dafydd fy nhad heb wybod; sef Abner mab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa mab Jether, tywysog llu Jwda.
Jeremiah 5:2Ac er dywedyd ohonynt, Byw yw yr ARGLWYDD, eto yn gelwyddog y tyngant.
Jeremiah 7:9Ai yn lladrata, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogl-darthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch;
Ezekiel 16:43Am na chofiaist ddyddiau dy ieuenc-tid, ond anogaist fi i lid yn hyn oil; am hynny wele, myfi a roddaf dy ffordd ar dy ben, medd yr ARGLWYDD DDUW: fel na wnel ych yr ysgelerder hyn am ben dy holl ffieidd-dra.