Llyfr Eseciel 18:13
Ar usuriaeth y rhoddes, ac ychwaneg a gymmerth; gan hynny a fydd efe byw? Ni bydd byw: gwnaeth yr holl ffieidd-dra hyn; gan farw y bydd farw; ei waed a fydd arno ei hun.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 20:9¶ Os bydd neb a felldigo ei dad neu ei fam, lladder ef yn farw: ei dad neu ei fam a felldigodd efe; ei waed fydd arno ei hun.
Leviticus 20:27¶ Gwr neu wraig a fo ganddynt yspryd dewiniaeth, neu frud, hwy a leddir yn farw: â cherrig y llabyddiant hwynt; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
Ezekiel 3:18Pan ddywedwyf wrth y drygionus, Gan farw y byddi farw; oni rybuddi ef, ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrycffordd, fel y byddo byw; y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd: ond ei waed ef a ofynnaf fi ar dy law di.
Ezekiel 18:17Ni thry ei law oddi wrth yr anghenog, usuriaeth na llog ni chymmer, fy marnau a wna, yn fy neddfau y rhodia: hwnnw ni bydd farw am anwiredd ei dad; gan fyw y bydd efe byw.
Ezekiel 18:28Am iddo ystyried, a dychwelyd oddi wrth ei holl gamweddau y rhai a wnaeth, gan fyw y bydd byw, ni bydd marw.
Ezekiel 33:4Yna yr hwn a glywo lais yr utgorn, ac ni chymer rybudd; eithr dyfod o't cleddyf a'i gymryd ef ymaith, ei waed fydd ar ei ben ei hun.