Llyfr Eseciel 18:20
Yr enaid a becho, hwnnw a fydd marw. Y mab ni ddwg anwiredd y tad, a’r tad ni ddwg anwiredd y mab: cyfiawnder y cyfiawn fydd arno ef, a drygioni y drygionus fydd arno yntau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 32:33A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pwy bynnag a bechodd i’m herbyn, hwnnw a ddileaf allan o’m llyfr.
Leviticus 5:17¶ Ac os pecha enaid, a gwneuthur yn erbyn gorchymynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, etto euog fydd, a’i anwiredd a ddwg.
Leviticus 16:22A’r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno, i dir neillduaeth: am hynny hebrynged efe y bwch i’r anialwch.
Numbers 18:1Rhoddi yr offrwm dyrchafael i’r offeiriaid allan o ran y Lefiaid. A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Tydi a’th feibion, a thylwyth dy dad gyd â thi, a ddygwch anwiredd y cyssegr: a thi a’th feibion gyd â thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth.
1 Kings 8:32Yna clyw di yn y nefoedd, gwna hefyd, a barna dy weision, gan ddamnio’r drygionus i ddwyn ei ffordd ef ar ei ben; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo ef yn ôl ei gyfiawnder. º
2 Kings 14:6Ond ni laddodd efe feibion y lleiddiaid; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, yn yr hon y gorchmynasai yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Na ladder y tadau dros y meibion, ac na ladder y meibion dros y tadau; ond lladder pob un am ei bechod ei hun. º