Llyfr Eseciel 20:13
Er hynny ty Israel a wrthryfelasant i'm herbyn yn yr anialwch: ni rodiasant yn fy neddfau, ond diystyrasant fy marnedigaethau, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a'u gwnelo hwynt; fy Sabothau hefyd a halogasant yn ddirfawr. Yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt yn yr anialwch, i'w difetha hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 32:8Buan y ciliasant o’r ffordd a orchymynnais iddynt: gwnaethant iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddygasnt i fynu o wlad yr Aipht.
Leviticus 26:15Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchymynion, ond torri fy nghyfammod;
Numbers 14:11¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pa hyd y digia y bobl yma fi? a pha hyd y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith?
Numbers 14:22Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a’m harwyddion a wneuthum yn yr Aipht, ac yn y diffaethwch, ac a’m temtiasant y dengwaith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais,
Numbers 15:31O herwydd iddo ddïystyru gair yr Arglwydd, a thorri ei orchymyn ef; llwyr-dorrer ymaith y dyn hwnnw: ei anwiredd fydd arno.
Numbers 16:45Ciliwch o blith y gynnulleidfa hon, a mi a’u difaf hwynt yn ddisymmwth. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau.