Llyfr Eseciel 20:19
Myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw chwi: rhodiwch yn fy neddfau, a ched¬wch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt:
Beibl (1620)
In The King James Version
I am the LORD your God; walk in my statutes, and keep my judgments, and do them;
In Context
Cross References
Leviticus 18:4Fy marnedigaethau i a wnewch, a’m deddfau a gedwch, i rodio ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
Deuteronomy 5:1Moses, ar ddeisyfiad y bobl, yn derbyn y gyfraith gan Dduw. A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Clyw, O Israel, y deddfau a’r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddyw; fel y byddo i chwi eu dysgu, a’u cadw, a’u gwneuthur.
Deuteronomy 5:32Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchymynodd yr Arglwydd eich Duw i chwi: na chiliwch i’r tu dehau nac i’r tu aswy.
Deuteronomy 8:1Annog i ufudd-dod, o ran ymgeledd Duw iddynt hwy. Edrychwch am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddyw; fel y byddoch fyw, ac y cynnyddoch, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr Arglwydd wrth eich tadau trwy lw.
Deuteronomy 11:1Rhoddi y fendith a’r felldith o’u blaen hwynt. Car dithau yr Arglwydd dy Dduw, a chadw ei gadwraeth ef, a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau, a’i orchymynion, byth.
Nehemiah 9:13Ti a ddisgynnaist hefyd ar fynydd Sinai ac a ymddiddenaist â hwynt o’r nefoedd; rhoddaist hefyd iddynt farnedigaethau uniawn, a chyfreithiau gwir, deddfau a gorchmynion daionus: