Llyfr Eseciel 20:28
Canys dygais hwynt i'r tir a dyng¬aswn ar ei roddi iddynt, a gwelsant bob bryn uchel, a phob pren brigog; ac aberthasant yno eu hebyrth, ac yno y rhoddasant eu hoffrymau dicllonedd: yno hefyd y gosodasant eu harogi peraidd, ac yno y tywalltasant eu diod-offrymau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 26:3Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyd â thi, ac a’th fendithiaf; o herwydd i ti ac i’th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di.
Joshua 23:3Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r holl genhedloedd hyn, er eich mwyn chwi: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn a ymladdodd drosoch.
2 Kings 17:9A meibion Israel a wnaethant yn ddirgcl bethau nid oedd uniawn yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, ac a adeil¬adasant iddynt uchelfeydd yn eu holl ddinasoedd, o dwr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog. º
2 Kings 17:12A hwy a wasanaethasant eilunod, am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt, Na wnewch y peth hyn. º
Psalms 105:8Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnaist, i’r lle a seiliaist iddynt.