Llyfr Eseciel 20:7
Yna y dywedais wrthynt, Bwriwch ymaith bob un ffieidd-dra ei lygaid, ac nac ymhalogwch ag eilunod yr Aifft. Myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw chwi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 20:2Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed.
Leviticus 11:44O herwydd myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi: ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd; o herwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
Leviticus 18:2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
Leviticus 20:7¶ Ymsancteiddiwch gan hynny, a byddwch sanctaidd: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
Joshua 24:14¶ Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr Aipht; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd.
Isaiah 2:20Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eilunod arian, a’i eilunod aur, y rhai a wnaethant iddynt i’w haddoli, i’r wadd ac i’r ystlumod: