Llyfr Eseciel 23:36
Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrthyf, A ferni di, fab dyn, Ahola ac Aholiba? ie, mynega iddynt eu ffieidd-dra;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Jeremiah 1:10Gwêl, heddiw y’th osodais ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddistrywio, i adeiladu, ac i blannu.
Jeremiah 14:11Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Na weddïa dros y bobl hyn am ddaioni.
Ezekiel 20:4A femi di hwynt, mab dyn, a femi di hwynt? gwna iddynt wybod ffieidd-dra eu tadau:
Hosea 2:2Dadleuwch â’ch mam, dadleuwch: canys nid fy ngwraig yw hi, ac nid ei gŵr hi ydwyf finnau: bwried hithau ymaith ei phuteindra o’i golwg, a’i godineb oddi rhwng ei bronnau;
Matthew 23:13¶ Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a’r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn.
Acts 7:51Chwi rai gwargaled, a dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu’r Ysbryd Glân: megis eich tadau, felly chwithau.