Llyfr Eseciel 23:37
Iddynt dorri priodas, a bod gwaed' yn eu dwylo; ie, gyda'u heilunod y puteiniasant; eu meibion hefyd y rhai a a'u blantasant i mi, a dynasant trwy dan iddynt i'w hysu.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 18:21Ac na ddod o’th had i fyned trwy dân i Moloch: ac na haloga enw dy Dduw: myfi yw yr Arglwydd.
Deuteronomy 12:31Na wna di felly i’r Arglwydd dy Dduw: canys pob ffieidd-dra yr hwn oedd gas gan yr Arglwydd, a wnaethant hwy i’w duwiau: canys eu meibion hefyd a’u merched a losgasant yn tân i’w duwiau.
2 Kings 21:6Ac efe a dynnodd ei fab trwy dan, ac a arferodd hudoliaeth, a brudiau, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef. º
2 Kings 24:4A hefyd oherwydd y gwaed gwirion a ollyngodd efe: canys efe a lanwodd Jerwsalem o waed gwirion; a hynny ni fynnai yr ARGLWYDD ei faddau. º
Isaiah 1:15A phan estynnoch eich dwylo, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch: hefyd pan weddïoi-h lawer, ni wrandawaf: eich dwylo sydd lawn o waed.
Jeremiah 7:9Ai yn lladrata, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogl-darthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch;