Llyfr Eseciel 33:12
Dywed hefyd, fab dyn, wrth feibion dy bobl, Cyfiawnder y cyfiawn nis gwared ef yn nydd ei anwiredd: felly am annuw-ioldeb yr annuwiol, ni syrth efe o'i herwydd yn y dydd y dychwelo oddi wrth ei anwiredd; ni ddichon y cyfiawn chwaith fyw oblegid ei gyfiawnder, yn y dydd y pecho.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Chronicles 7:14Os fy mhobl, y rhai y gelwir fy enw arnynt, a ymostyngant, ac a weddïant, ac a geisiant fy wyneb, ac a droant o’u ffyrdd drygionus: yna y gwrandawaf o’r nefoedd, ac y maddeuaf iddynt eu pechodau, ac yr iachaf eu gwlad hwynt.
Jeremiah 18:10Os hi a wna ddrygioni yn fy ngolwg, heb wrando ar fy llais, minnau a edifarhaf am y daioni a’r hwn y dywedais y gwnawn les iddi. º
Ezekiel 18:21Ond os yr annuwiol a ddychwel oddi wrth ei holl bechodau y rhai a wnaeth, a chadw fy holl ddeddfau, a gwneuthur barn a chyfiawnder, efe gan fyw a fydd byw; ni bydd efe marw.
Ezekiel 33:2Llefara, fab dyn, wrth feibion dy bobl, a dywed wrthynt. Pan ddygwyf gleddyf ar wlad, a chymryd o bobl y wlad ryw ŵr o'i chyrrau, a'i roddi yn wyliedydd iddynt:
Matthew 21:28¶ Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan ŵr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddiw yn fy ngwinllan.
1 John 2:1Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch, Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist yCyfiawn: