Llyfr Eseciel 33:8
Pan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Ti annuwiol, gan farw a fyddi farw; oni leferi di i rybuddio yr annuwiol o'i ffordd, yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwiredd, ond ar dy law di y gofynnaf ei waed ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 2:17Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwytta o hono; oblegid yn y dydd y bwyttêi di o hono, gan farw y byddi farw.
Numbers 27:3Ein tad ni a fu farw yn yr anialwch; ac nid oedd efe ym mysg y gynnulleidfa a ymgasglodd yn erbyn yr Arglwydd y’nghynnulleidfa Corah, ond yn el bechod ei hun y bu farw; ac nid oedd meibion iddo.
Ecclesiastes 8:13Ond ni bydd daioni i’r annuwiol, ac ni estyn efe ei ddyddiau, y rhai sydd gyffelyb i gysgod; am nad yw yn ofni gerbron Duw.
Jeremiah 8:11Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; pryd nad oedd heddwch.
Ezekiel 13:9A bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sydd yn gweled gwagedd, ac yn dewinio celwydd; yng nghyfrinach fy mhobl ni byddant, ac o fewn ysgrifen ty Israel nid ysgrifennir hwynt, i dir Israel hefyd ni ddeuant; a gwybyddwch mai myfi yw yr ARGLWYDD DDUW.
Ezekiel 18:10Os cenhedla efe fab yn lleidr, ac yn tywallt gwaed, ac a wna gyffelyb i’r un o’r pethau hyn,