Llyfr Eseciel 36:4
Am hynny, mynyddoedd Israel, gwrandewcb air yr Arglwydd DDUW; Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd, wrth y diffeithwch anghyfanheddol, ac wrth y dinasoedd gwrthodedig, y rhai a aeth yn ysbail ac yn watwar i'r rhan arall o'r cenhedloedd o'u hamgylch:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 11:11Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu, sydd fynydd-dir, a dyffryndir, yn yfed dwfr o wlaw y nefoedd;
Psalms 79:4Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr ARGLWYDD, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe.
Isaiah 24:1WELE yr ARGLWYDD yn gwneuthur y ddaear yn wag, ac yn ei difwyno hi; canys efe a ddadymchwel ei hwyneb hi, ac a wasgar ei thrigolion. º
Jeremiah 25:9Wele, mi a anfonaf ac a gymeraf holl deuluoedd y gogledd, medd yr AR¬GLWYDD, a Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a’u dygaf hwynt yn erbyn y wlad hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; difrodaf hwynt hefyd, a gosodaf hwynt yn syndod, ac yn chwibaniad, ac yn anrhaith tragwyddol. º
Ezekiel 6:3A dywed, Mynyddoedd Israel, gwrandewch air yr ARGLWYDD DDUW: Fel hya y dywed yr ARGLWYDD DDUW wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth y nentydd ac wrth y dyffrynnoedd; Wele fi, ie, myfi yn dwyn cleddyf arnoch, a mi a ddinistriaf eich uchel leoedd.
Ezekiel 34:28Ac ni byddant mwyach yn ysbail i'r cenhedloedd, a bwystfil y tir nis bwyty hwynt; eithr trigant mewn diogelwch, ac ni bydd a'u dychryno.