Llyfr Eseciel 38:4
Dychwelaf di hefyd, a rhoddaf fachau yn dy fochgernau, a mi a'th ddygaf allan, a'th holl lu, y meirch a'r marchogion, wedi eu gwisgo i gyd a phob rhyw arfau, yn gynulleidfa fawr a tharianau ac estylch, hwynt oll yn dwyn cleddyfau:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
5Persia, Ethiopia, a Libya, gyda hwynt; hwynt oll yn dwyn tarian a helm:
Cross References
2 Kings 19:28Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau i; am hynny y gosodaf fy mach yn dy ffroen, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost. º
2 Chronicles 25:5Ac Amaseia a gynullodd Jwda, ac a’u gwnaeth hwy, yn ôl tŷ eu tadau, yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd, trwy holl Jwda a Benjamin: ac efe a’u cyfrifodd hwynt o fab ugain mlwydd ac uchod, ac a’u cafodd hwy yn dri chan mil o wŷr etholedig yn gallu myned i ryfel, yn medru trin gwaywffon a tharian.
Jeremiah 46:9O feirch, deuwch i fyny; a chwithau gerbydau, ymgynddeiriogwch; a deuwch allan y cedyrn; yr Ethiopiaid, a’r Libiaid, y rhai sydd yn dwyn tarian; a’r Lydiaid, y rhai sydd yn teimlo ac yn anelu bwa. º
Ezekiel 29:4Eithr gosodaf fachau yn dy fochgernau, a gwnaf i bysgod dy afonydd lynu yn dy emau, a chodaf di o ganol dy afonydd; ie, holl bysgod dy afonydd a lynant wrth dy emau.
Ezekiel 39:2A mi a'th ddychwelaf, ac ni adawaf ohonot ond y chweched ran, ac a'th ddyg-af i fyny o ysdysau y gogledd, ac a'th ddygafar fynyddoedd Israel: