Llyfr Eseciel 40:29
A'i ystafelloedd, a'i byst, a'i fwau meini, wrth y mesurau hyn; ac yr oedd ffenestri ynddo, ac yn ei fwau meini, o amgylch ogylch: deg cufydd a deugain oedd yr hyd, a phum cufydd ar hugain y lled.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
30A'r bwau meini o amgylch ogylch oedd bum cufydd ar hugain o hyd, a phum cufydd o led.
Cross References
1 Chronicles 28:11Yna y rhoddes Dafydd i Sblomon ei fab bortreiad y porth, a’i dai, a’i selerau, a’i gellau, a’i ystafelloedd oddi fewn, a thŷ y drugareddfa, º
Nehemiah 13:5Ac efe a wnaeth iddo ef ystafell fawr; ac yno y byddent o’r blaen yn rhoddi y bwyd-offrymau, y thus, a’r llestri, a degwm yr ŷd, y gwin, a’r olew, a orchmynasid eu rhoddi i’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, ac offrymau yr offeiriaid.
Jeremiah 35:2DOS di i dŷ y Rechabiaid, a llefara wrthynt, a phar iddynt ddyfod i dŷ yr ARGLWYDD, i un o’r ystafelloedd, a dod iddynt win i’w yfed. º
Ezekiel 40:7A phob ystafell oedd un gorsen o hyd, ac un gorsen o led: a phum cufydd oedd rhwng yr ystafelloedd: a rhiniog y porth, wrth gyntedd y porth o'r tu mewn, oedd un gorsen.
Ezekiel 40:12A'r terfyn o flaen yr ystafelloedd oedd un cufydd o'r naill du, a'r terfyn o'r tu arall yn un cufydd; a'r ystafelloedd oedd chwe chufydd o'r tu yma, a chwe chufydd o'r tu acw.
Ezekiel 40:21A'i ystafelloedd ef oedd dair o'r tu yma, a thair o'r tu acw; ac yr ydoedd ei byst, a'i fwau meini, wrth fesur y porth cyntaf, yn ddeg cufydd a deugain eu hyd, a'r lled yn bum cufydd ar hugain.