Llyfr Eseciel 40:6
Ac efe a ddaeth i'r porth oedd a'i wyneb tua'r dwyrain, ac a ddringodd ar hyd ei risiau ef, ac a fesurodd riniog y porth yn un gorsen o led, a'r rhiniog arall yn un gorsen o led.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 6:8Drws y gell ganol oedd ar ystlys ddeau y tŷ; ac ar hyd grisiau tröedig y dringid i’r ganol, ac o’r ganol i’r drydedd.
1 Chronicles 9:24Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a deau. º
Psalms 84:10Yn Endor y difethwyd hwynt: aethant yn dail i’r ddaear.
Ezekiel 8:16Ac efe a'm dug i gyntedd ty yr AR¬GLWYDD oddi fewn, ac wele wrth ddrws teml yr ARGLWYDD, rhwng y porth a'r allor, ynghylch pumwr ar hugain, a'u cefnau tuag at deml yr ARGLWYDD, a'u hwynebau tua'r dwyrain; ac yr oeddynt hwy yn ymgrymu i'r haul tua'r dwyrain.
Ezekiel 11:1YNA y'm cyfododd yr ysbryd, ac y'm dug hyd borth dwyrain t yr AR¬GLWYDD, yr hwn sydd yn edrych tua'r dwyrain: ac wele bumwr ar hugain yn nrws y porth; ac yn eu mysg y gwelwn Jaasaneia mab Asur, a Phelatia mab Benaia, tywysogion y bobl.
Ezekiel 40:7A phob ystafell oedd un gorsen o hyd, ac un gorsen o led: a phum cufydd oedd rhwng yr ystafelloedd: a rhiniog y porth, wrth gyntedd y porth o'r tu mewn, oedd un gorsen.