Llyfr Eseciel 43:3
Ac yr oedd yn ôl gwelediad y weledigaeth a welais, sef yn ôl y weledigaeth a welais pan ddeuthum i ddifetha y ddinas; a'r gweledigaethau oedd fel y weledigaeth a welswn wrth afon Chebar: yna y syrthiais ar fy wyneb.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4A gogoniant yr ARGLWYDD a ddaeth i'r ty ar hyd ffordd y porth sydd a'i wyneb tua'r dwyrain.
Cross References
Ezekiel 1:3Y daeth gair yr ARGLWYDD yn eglur at Ezeciel yr offeiriad, mab Buzi, yn nhir y Caldeaid, wrth afon Chebar; ac yno y bu llaw yr ARGLWYDD arno ef.
Ezekiel 8:4Ac wele yno ogoniant Duw Israel, fel y weledigaeth a welswn yn y gwastadedd.
Ezekiel 9:3A gogoniant Duw Israel a gyfododd oddi ar y ceriwb yr ydoedd efe arno, hyd riniog y ty. Ac efe a lefodd ar y gŵr oedd wedi ei wisgo a lliain, yr hwn yr oedd corn du ysgrifennydd wrth ei glun:
Ezekiel 9:10Ac amdanaf fi, nid erbyd fy llygad, ac ni thosturiaf; rhoddaf eu ffordd eu hun ar eu pennau.
Ezekiel 10:22Cyffelybrwydd eu hwynebau oedd yr un wynebau ag a welais wrth afon Chebar, eu dull hwynt a hwythau: cerdd-ent bob un yn union rhag ei wyneb.
Ezekiel 32:18Cwyna, fab dyn, am liaws yr Aifft, a disgyn hi, hi a merched y cenhedloedd enwog, i'r tir isaf, gyda'r rhai a ddisgyn¬nant i'r pwll.