Llyfr Eseciel 44:19
A phan elont i'r cyntedd nesaf allan, sef at y bobl i'r cyntedd oddi allan, diosgant eu gwisgoedd y rhai y gwasanaethasant ynddynt, a gosodant hwynt o fewn celloedd y cysegr, a gwisgant ddillad eraill; ac na chysegrant y bobl a'u gwisg¬oedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 29:37Saith niwrnod y gwnei gymmod dros yr allor, ac y sancteiddi hi: felly yr allor fydd sanctaidd: pob peth a gyffyrddo â’r allor, a sancteiddir.
Leviticus 6:3Neu os cafodd beth gwedi ei golli, a dywedyd celwydd am dano, neu dyngu yn anudon; am ddim o’r holl bethau a wnelo dyn, gan bechu ynddynt:
Leviticus 6:10Gwisged yr offeiriad hefyd ei lïein-wisg am dano, a gwisged lodrau llïan am ei gnawd, a choded y lludw lle yr ysodd y tân y poeth-aberth ar yr allor, a gosoded ef ger llaw yr allor.
Leviticus 6:27Beth bynnag a gyffyrddo â’i gig ef, a fydd sanctaidd: a phan daeneller o’i waed ef ar ddilledyn, golch yn y lle sanctaidd yr hyn y taenellodd y gwaed arno.
Ezekiel 42:14A phan elo yr offeiriaid i mewn iddynt, nid ânt allan o'r cysegr i'r cyntedd nesaf allan, eithr yno y gosodant eu dillad y rhai y gwasanaethant ynddynt, am eu bod yn sanctaidd; ac a wisgarit wisgoedd eraill, ac a nesant at yr hyn a berthyn i'r bobl.
Matthew 23:17Ffyliaid, a deillion: canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y deml sydd yn sancteiddio’r aur?