Llyfr Eseciel 44:29
Y bwyd-offrwm, a'r pech-aberth, a'r aberth dros gamwedd, a fwytant hwy; a phob peth cysegredig yn Israel fydd eidd-ynt hwy.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 2:10A bydded i Aaron ac i’w feibion weddill y bwyd-offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymmau yr Arglwydd ydyw.
Leviticus 6:26Yr offeiriad a’i hoffrymmo dros bechod, a’i bwytty: yn y lle sanctaidd y bwyttêir ef, y’nghynteddfa pabell y cyfarfod.
Leviticus 7:6Pob gwrryw ym mysg yr offeiriaid a’i bwytty: yn y lle sanctaidd y bwyttêir ef: sancteiddiolaf yw.
Leviticus 27:28¶ Ond pob dïofryd-beth a ddïofrydo un i’r Arglwydd, o’r hyn oll a fyddo eiddo ef, o ddyn neu o anifail, neu o faes ei etifeddiaeth, ni werthir, ac ni ryddhêir: pob dïofryd-beth sydd sancteiddiolaf i’r Arglwydd.
Numbers 18:14Pob dïofryd-beth yn Israel fydd eiddot ti.
Hebrews 13:10Y mae gennym ni allor, o’r hon nid oes awdurdod i’r rhai sydd yn gwasanaethu’r tabernacl i fwyta.