Llyfr Eseciel 44:7
Gan ddwyn ohonoch ddieithriaid dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, i fod yn fy nghysegr i'w halogi ef, sef fy nhŷ i, pan offrymasoch fy mara, y braster a'r gwaed; a hwy a dorasant fy nghyfamod, oherwydd eich holl ffieidd-dra chwi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 12:48A phan arhoso dïeithr gyd â thi, ac ewyllysio cadw Pasc i’r Arglwydd, enwaeder ei holl wrrywiaid ef, ac yna nesâed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwyttâed neb dïenwaededig o hono.
Leviticus 17:11O herwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed, a mi a’i rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur cymmod dros eich eneidiau; o herwydd y gwaed hwn a wna gyfaod dros yr enaid.
Leviticus 21:8A chyfrif di ef yn sanctaidd; o herwydd bara dy Dduw di y mae efe yn ei offrymmu: bydded sanctaidd i ti; o herwydd sanctaidd ydwyf fi yr Arglwydd eich sancteiddydd.
Leviticus 21:21Na nesâed un gwr o had Aaron yr offeiriad, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymmu ebyrth tanllyd yr Arglwydd; anaf sydd arno; na nesâed i offrymmu bara ei Dduw.
Leviticus 26:15Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchymynion, ond torri fy nghyfammod;
Deuteronomy 10:16Enwaedwch chwithau ddïenwaediad eich calon, ac na chaledwch eich gwarr mwyach.