Llyfr Eseciel 46:12
A phan ddarparo y tywysog boethoffrwm gwirfodd, neu aberthau hedd gwirfodd i'r ARGLWYDD, yna yr egyr un iddo y porth sydd yn edrych tua'r dwy¬rain, ac efe a ddarpara ei bocthoffrwm a'i aberthau hedd, fel y gwnaeth ar y dydd Saboth; ac a a allan: ac un a gae y porth ar ôl ei fyned ef allan.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 7:16Ond os adduned, neu offrwm gwirfodd, fydd aberth ei offrwm ef, y dydd yr offrymmo efe ei aberth, bwyttâer ef: a thrannoeth bwyttâer yr hyn fyddo yn weddill o hono.
Numbers 29:39Hyn a wnewch i’r Arglwydd ar eich gwyliau; heb law eich addunedau, a’ch offrymmau gwirfodd, gyd â’ch offrymmau poeth, a’ch offrymmau bwyd, a’ch offrymmau dïod, a’ch offrymmau hedd.
1 Chronicles 29:21Aberthasant hefyd ebyrth i’r AR-GLWYDD, a thrannoeth ar ôl y dydd hwnnw yr abenhasant yn boethoffrymmau i’r ARGLWYDD, fil o fustych, mil o hyrddod, a mil o wyn, a’u diod-offrymau, ac ebyrth yn lluosog, dros holl Israel: º
2 Chronicles 7:5A’r brenin Solomon a aberthodd aberth o ddwy fil ar hugain o ychen, a chwech ugain mil o ddefaid: felly y brenin a’r holl bobl a gysegrasant dŷ DDUW.
Ezra 1:4A phwy bynnag a adawyd mewn un man lle y mae efe yn ymdeithio, cynorthwyed gwŷr ei wlad ef ag arian, ac ag aur, ac a golud, ac ag anifeiliaid, gydag ewyllysgar offrwm tŷ DDUW, yr hwn sydd yn Jerwsalem.
Ezra 6:17Ac a offrymasant wrth gysegru y tŷ hwn eiddo Duw, gant o ychen, dau cant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddeg o fychod geifr, yn bech-aberth dros Israel, yn ôl rhifedi llwythau Israel.