Llyfr Eseciel 6:4
Eich allorau hefyd a ddifwynir, a'ch haul-ddelwau a ddryllir: a c'nwympaf eich archolledigion o flaen eich eilunod.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
5A rhoddaf gelanedd meibion Israel gerbron eu heilunod, a thaenaf eich esgyrn o amgylch eich allorau.
Cross References
1 Kings 13:2Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O allor, allor, fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Wele, mab a enir i dŷ Dafydd, a’i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogl-darthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti. º
2 Kings 23:16A Joseia a edrychodd, ac a ganfit feddau, y rhai oedd yno yn y mynydd, ac a anfonodd, ac a gymerth yr esgyrn o’r beddau, ac a’u llosgodd ar yr allor, ac a’i halogodd hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD-yr hwn a gyhoeddasai gŵr Duw, yr hwn a bregethasai y geiriau hyn. º
2 Chronicles 34:4Distrywiasant hefyd yn ei ŵydd ef allorau Baalim; a’r delwau y rhai oedd i fyny oddi arnynt hwy a dorrodd efe: y llwyni hefyd, a’r delwau cerfiedig, a’r delwau toddedig, a ddrylliodd efe, ac a faluriodd, taenodd hefyd eu llwch hwy.ar hyd wyneb beddau y rhai a aberthasent iddynt hwy.
Jeremiah 8:1Yn yr amser hwnnw, medd yr AR¬GLWYDD, y dygant hwy esgyrn brenhinoedd Jwda, ac esgyrn ei dywysogion, ac esgyrn yr offeiriaid, ac esgyrn y proffwydi, ac esgyrn trigolion Jerw¬salem, allan o’u beddau.
Ezekiel 6:5A rhoddaf gelanedd meibion Israel gerbron eu heilunod, a thaenaf eich esgyrn o amgylch eich allorau.