Llyfr Eseciel 8:11
A dengwr a thrigain o henuriaid ty Israel yn sefyll ar eu cyfer hwynt, a Jaasaneia mab Saffan yn sefyll yn eu canol, pob un a'i thuser yn ei law; a chwmwl tew o fyctarth oedd yn dyrchafu.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 24:1Moses yn myned i’r mynydd; lle y mae efe yn aros ddeugain niwrnod a deugain nos. Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fynu at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a’r deg a thri ugain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell.
Numbers 11:16¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl i mi ddengwr a thri ugain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl, ac yn swyddogion arnynt; a dwg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyd â thi.
Numbers 16:17A chymmerwch bob un ei thusser, a rhoddwch arnynt arogl-darth; a dyged pob un ei thusser ger bron yr Arglwydd, sef dau cant a deg a deugain o thusserau: dwg dithau hefyd, ac Aaron, bob un ei thusser.
2 Kings 22:3Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia, y brenin a anfonodd Saffan, mab Asaleia, mab Mesulam, yr ysgrifennydd, i dŷ yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, º
2 Kings 22:12A’r brenin a orchmynnodd i Hiloeia yr offeiriad, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Achbor mab Michaia, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaheia gwas y brenin, gan ddywedyd, º