Llyfr Eseciel 9:2
Ac wele chwech o wyr yn dyfod o ffordd y porth uchaf, yr hwn sydd yn edrych tua'r gogledd, a phob un a'i arf dinistr yn ei law: ac yr oedd un gŵr yn eu mysg hwynt wedi ei wisgo a lliain, a chorn du ysgrifennydd wrth ei glun; a hwy a aethant i mewn, ac a safasant wrth yr allor bres. '
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 27:1Yr olew i’r lamp. Gwna hefyd allor o goed Sittim, o bùm cufydd o hŷd, a phùm cufydd o led: yn bedeirongl y bydd yr allor, a’i huchder o dri chufydd.
Leviticus 16:4Gwisged bais lïan sanctaidd, a bydded llodrau llïan am ei gnawd, a gwregyser ef â gwregys llïan, a gwisged feitr llïan: gwisgoedd sanctaidd yw y rhai hyn; golched yntau ei gnawd mewn dwfr, pan wisgo hwynt.
2 Chronicles 4:1Ac efe a wnaeth allor bres, o ugain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei lled, a deg cufydd ei huchder.
Jeremiah 1:15Canys wele, myfi a alwaf holl deuluoedd teyrnasoedd y gogledd, medd yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant, ac a osodant bob un ei orseddfainc wrth ddrws porth Jerwsalem, ac yn erbyn ei muriau oll o amgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda.
Jeremiah 5:15Wele, mi a ddygaf arnoch chwi, tŷ Israel, genedl o bell, medd yr ARGLWYDD; cenedl nerthol ydyw, cenedl a fu er ys talm, cenedl ni wyddost ei hiaith, aco ni ddeelli beth a ddywedant.
Jeremiah 25:9Wele, mi a anfonaf ac a gymeraf holl deuluoedd y gogledd, medd yr AR¬GLWYDD, a Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a’u dygaf hwynt yn erbyn y wlad hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; difrodaf hwynt hefyd, a gosodaf hwynt yn syndod, ac yn chwibaniad, ac yn anrhaith tragwyddol. º