Llyfr Esra 3:11
A hwy a gydganasant, wrth foliannu ac wrth glodfori yr ARGLWYDD, mai da oedd, mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel. A’r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr, gan foliannu yr ARGLWYDD, am sylfaenu tŷ yr ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 15:21A dywedodd Miriam wrthynt, Cenwch i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn ardderchog; bwriodd y march a’r marchog i’r môr.
Joshua 6:10A Josua a orchymynasai i’r bobl, gan ddywedyd, Na floeddiwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o’ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, Bloeddiwch; yna y bloeddiwch.
1 Chronicles 16:34Clodforwch yr ARGLWYDD;. canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. º
2 Chronicles 7:3A phan welodd holl feibion Israel y tân yn disgyn, a gogoniant yr ARGLWYDD ar y tŷ, hwy a ymgrymasant â’u hwynebau i lawr ar y palmant, ac a addolasant, ac a glodforasant yr ARGLWYDD, canys daionus yw efe, oherwydd bod ei drugaredd ef yn dragywydd.
Nehemiah 12:40Felly y ddwy fintai, y rhai oedd yn moliannu, a safasant yn nhŷ DDUW, a minnau, a hanner y swyddogion gyda mi:
Psalms 47:1I’r Pencerdd o feibion Cora, Cân ar Alamoth. Duw sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder.