Llyfr Esra 3:7
Rhoddasant hefyd arian i’r seiri maen, ac i’r seiri pren; a bwyd, a diod, ac olew, i’r Sidoniaid, ac i’r Tyriaid, am ddwyn coed cedr o Libanus hyd y môr i Jopa: yn ôl caniatâd Cyrus brenin Persia iddynt hwy.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 5:6Yn awr, gan hynny, gorchymyn dorri ohonynt i mi gedrwydd o Libanus; a’m gweision i a fyddant gyda’th weision di: a rhoddaf atat gyflog dy weision, yn ôl yr hyn a ddywedych: canys ti a wyddost nad oes yn ein plith ni ŵr a fedro gymynu coed megis y Sidoniaid.
2 Kings 12:10A phan welent fod llawer o arian yn y gist, y deuai ysgrifennydd y brenin, a’r archoffeiriad, i fyny, ac a roent mewn codau, ac a gyfrifent yr arian a gawsid yn nh yr ARGLWYDD. º
2 Kings 12:13Eto ni wnaed yn nhŷ yr ARGLWYDD gwpanau arian, saltringau, cawgiau, utgyrn, na llestri aur, na llestri arian, o’r arian a ddygasid i mewn i dŷ yr AR¬GLWYDD. º
2 Chronicles 2:10Ac wele, i’th weision, i’r seiri a naddant y coed, y rhoddaf ugain mil corus o wenith wedi ei guro, ac ugain mil o haidd, ac ugain mil bath o win, ac ugain mil bath o olew.
2 Chronicles 24:12A’r brenin a Jehoiada a’i rhoddodd i’r rhai oedd yn gweithio gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD; a chyflogasant seiri maen, a seiri pren, i gyweirio tŷ yr ARGLWYDD; a gofaint haearn a phres, i gadarnhau tŷ yr ARGLWYDD.
Ezra 1:2Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda.