Llyfr Esra 4:20
A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem, yn llywodraethu ar bawb o’r tu hwnt i’r afon, ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a threth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 15:18Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfammod âg Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aipht hyd yr afon fawr, afon Euphrates:
1 Kings 4:21A Solomon oedd yn llywodraethi ar yr holl deyrnasoedd, o’r afon hyd wlad y Philistiaid, ac hyd derfyn yr Aifft: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef.
1 Kings 5:1Hiram hefyd brenin Tyrus a anfonodd ei weision at Solomon; canys clybu eneinio ohonynt hwy ef yn frenin yn lle ei dad: canys hoff oedd gan Hiram Dafydd bob amser.
1 Chronicles 18:3Trawodd Dafydd hefyd Hadareser brenin Soba hyd Hamath, pan oedd efe yn myned i sicrhau ei lywodraeth wrth afon Ewffrates. º
1 Chronicles 18:13Ac efe a osododd amddiffynfeydd yn Edom; a’r holl Edomiaid a fuant weision i Dafydd. A’r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth efe. º
2 Chronicles 9:14Heblaw yr hyn yr oedd y marchnadwyr a’r marsiandwyr yn eu dwyn: a holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad, oedd yn dwyn aur ac arian i Solomon.