Llyfr Esra 6:12
A’r Duw, yr hwn a wnaeth i’w enw breswylio yno, a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo DUW yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 12:5Ond y lle a ddewiso yr Arglwydd eich Duw o’ch holl lwythau chwi, i osod ei enw yno, ei drigfa ef a geisiwch, ac yno y deuwch:
Deuteronomy 16:2Abertha dithau yn Basc i’r Arglwydd dy Dduw, o ddefaid a gwartheg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef yno.
2 Chronicles 7:16Ac yn awr mi a ddetholais ac a sancteiddiais y tŷ hwn, i fod fy enw yno hyd byth: fy llygaid hefyd a’m calon a fyddant yno yn wastadol.
Ezra 7:17Fel y prynych yn ebrwydd â’r arian hynny ychen, hyrddod, ŵyn, a’u bwyd-offrymau, a’u diod-offrymau, a’u hoffrwm hwynt ar allor tŷ eich Duw yn Jerwsalem.
Esther 8:14Y rhedegwyr, y rhai oedd yn marchogaeth y dromedariaid a’r mulod, a aethant ar frys, wedi eu gyrru trwy air y brenin; a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys.
Psalms 21:8Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant ond nyni a gyfodasom, ac a safasom.