Llyfr Esra 6:17
Ac a offrymasant wrth gysegru y tŷ hwn eiddo Duw, gant o ychen, dau cant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddeg o fychod geifr, yn bech-aberth dros Israel, yn ôl rhifedi llwythau Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 4:13¶ Ac os holl gynnulleidfa Israel a becha mewn anwybod, a’r peth yn guddiedig o olwg y gynnulleidfa, a gwneuthur o honynt yn erbyn yr un o orchymynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a myned yn euog:
Leviticus 4:28Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i’w wybodaeth ef: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffeith-gwbl dros ei bechod a bechodd efe.
1 Kings 8:63A Solomon a aberthodd aberth hedd, yr hwn a offrymodd efe i’r ARGLWYDD, sef dwy fil ar hugain o wartheg, a chwech ugain mil o ddefaid. Felly y brenin a holl feibion Israel a gyseg-rasant dŷ yr ARGLWYDD.,. º
1 Chronicles 16:1FELLY y dygasant hwy arch Duw i mewn, ac a’i gosodasant hi yng nghanol y babell a osodasai Dafydd iddi hi: a hwy a offrymasant offrymau poeth ac ebyrth hedd gerbron Duw. º
2 Chronicles 29:21A hwy a ddygasant saith o fustych, a saith o hyrddod, a saith o ŵyn, a saith o fychod geifr, yn bech-aberth dros y frenhiniaeth, a thros y cysegr, a thros Jwda: ac efe a ddywedodd wrth yr offeiriaid meibion Aaron, am offrymu y rhai hynny ar allor yr ARGLWYDD.
2 Chronicles 29:31A Heseceia a attebodd ac a ddywed¬odd, Yn awr yr ymgysegrasoch chwi i’r ARGLWYDD; nesewch, a dygwch ebyrth, ac ebyrth moliant, i dŷ yr ARGLWYDD. A’r gynulleidfa a ddygasant ebyrth, ac ebyrth moliant, a phob ewyllysgar o galon, boethoffrymau.